#

Y Pwyllgor Deisebau | 7 Mai 2019
 Petitions Committee | 7 May 2019
 
 
 ,P-05-869 Datgan argyfwng hinsawdd 

 

 

 


Papur briffio gan Ymchwil y Senedd:

Rhif y ddeiseb: P-05-869

Teitl y ddeiseb: Datgan Argyfwng Hinsawdd a gosod targedau di-garbon ym mhob polisi

Testun y ddeiseb: Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i annog Llywodraeth Cymru i:

 

1.   Ddatgan Argyfwng Hinsawdd.

2.   Sicrhau bod yr holl bolisïau presennol ac yn y dyfodol yn gyson â’r ymgyrch i osgoi newid pellach yn yr hinsawdd a chwymp ecolegol.

3.   Deddfu mesurau polisi cyfreithiol i leihau allyriadau carbon i net sero erbyn 2025 a lleihau lefelau defnydd.

4.   Gweithredu Cynulliad Dinasyddion Cymru i oruchwylio’r newidiadau.

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatgan Argyfwng Hinsawdd ar unwaith, ac ymrwymo i weithredu’r camau sy’n weddill erbyn mis Mehefin 2019.

Rhaid i dargedau Llywodraeth Cymru ar gyfer sector cyhoeddus di-garbon gael eu defnyddio fel catalydd i sbarduno datgarboneiddio cyflym yn y sector preifat drwy gaffael, trethi a chymhorthdal. Ledled y DU, mae ugain cyngor dinas, tref a sir eisoes wedi datgan Argyfwng Hinsawdd, gan gynnwys Powys a Machynlleth. Rhaid i ddinasyddion fod yn rhan er mwyn sicrhau bod y newid angenrheidiol yn cael ei wneud ar draws gymdeithas, fel y dangoswyd ym model Sortition o ddemocratiaeth gyfranogol. Ymhlith y mentrau y gellir creu partneriaeth â nhw mae: The Climate Mobilization; Beyond Zero Emissions; Rapid Transition Alliance; Green New Deal Group; One Million Climate Jobs; The Breakthrough Institute; a Zero Carbon Britain.

 

Y cefndir

Roedd Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (y Ddeddf) yn gosod dyletswyddau newydd ar Lywodraeth Cymru i leihau allyriadau, gan gynnwys gofyniad i sicrhau bod allyriadau net ar gyfer 2050 o leiaf 80 y cant yn is na’r gwaelodlin.

Mae’r Ddeddf yn gosod sawl dyletswydd ar Weinidogion Cymru i sicrhau y cyrhaeddir targed 2050. Mae’r rhain yn cynnwys: 

§    Erbyn diwedd 2018, rhaid i Lywodraeth Cymru bennu targedau allyriadau dros dro ar gyfer 2020, 2030 a 2040;  

§    Ar gyfer pob cyfnod cyllidebol pum mlynedd, rhaid i Lywodraeth Cymru bennu uchafswm o ran cyfanswm allyriadau net Cymru (a ddisgrifir fel cyllideb garbon), a rhaid pennu’r ddwy gyllideb gyntaf erbyn diwedd 2018; a 

§    Rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried cytundebau rhyngwladol i gyfyngu ar unrhyw gynnydd o ran tymheredd cyfartalog y byd.

Wrth ddatblygu’r targedau allyriadau dros dro a’r cyllidebau carbon, comisiynodd Llywodraeth Cymru gyngor gan ei chorff ymgynghorol statudol, sef Pwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd (UK CCC). Cyhoeddodd Pwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd ei gyngor cyntaf i Lywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2017. Roedd yn mynegi pryder ynghylch cyfrifyddu carbon a dyluniad cyllidebau carbon Cymru, a thargedau eraill. Cyhoeddodd Pwyllgor Newid yn yr Hinsawdd y DU ei ail gyngor i Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2017. Roedd hwn yn asesu pa lwybr datgarboneiddio oedd yn briodol i Gymru, gan gynnwys argymhellion penodol ar dargedau dros dro ar gyfer 2020, 2030 a 2040, ynghyd â chyllidebau carbon sy’n weithredol hyd at 2025. Yn ei gyngor, daeth yr UK CCC i’r casgliad bod yr amgylchiadau yng Nghymru yn gwneud cyflawni gostyngiad o 80 y cant yn fwy heriol na’r gostyngiad cyfatebol ar gyfer y DU gyfan. Mae’n priodoli hyn i’r ffaith bod Cymru â chyfran fwy o allyriadau ‘anodd eu lleihau’, er enghraifft ym maes amaethyddiaeth a diwydiant. Mae’r UK CCC yn awgrymu mai’r gostyngiad dichonol gorau posibl i Gymru erbyn 2050 yw 85 y cant.

Ym mis Rhagfyr 2018 gosododd Llywodraeth Cymru bum cyfres o Reoliadau i weithredu rhai o’r ymrwymiadau sy’n deillio o’r Ddeddf. Y rhain oedd: 

§    Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Targedau Allyriadau Dros Dro) (Cymru) 2018;

§    Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cyllidebau Carbon) (Cymru) 2018;

§    Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Hedfan Ryngwladol a Morgludiant Rhyngwladol) (Cymru) 2018;

§    Rheoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Terfyn Credyd) (Cymru) 2018; a

§    Rheoliadau Cyfrifyddu Carbon (Cymru) 2018.

Roedd y gyfres gyntaf o reoliadau yn gosod targedau allyriadau dros dro, sef:

§  Yr uchafswm ar gyfer cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer 2020 yw 27 y cant islaw’r waelodlin;

§  Yr uchafswm ar gyfer cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer 2030 yw 45 y cant islaw’r waelodlin;

§  Yr uchafswm ar gyfer cyfrif allyriadau net Cymru ar gyfer 2040 yw 67 y cant islaw’r waelodlin.

Roedd yr ail gyfres o reoliadau yn gosod y ddwy gyllideb carbon gyntaf:

§  Ar gyfer y cyfnod cyllidebol o 2016 i 2020, mae’r gyllideb carbon yn gyfyngedig i gyfartaledd o 23 y cant islaw’r waelodlin.

§  Ar gyfer y cyfnod cyllidebol o 2021 i 2025, mae’r gyllideb carbon yn gyfyngedig i gyfartaledd o 33 y cant islaw’r waelodlin.

 

Cytundeb Paris ac Adroddiad y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd (IPCC)

Ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2015, cynhaliwyd 21ain Gynhadledd y Partïon sy’n rhan o Gonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd (UNFCCC COP21) ym Mharis. Cytundeb amgylcheddol rhyngwladol ar newid yn yr hinsawdd yw’r Confensiwn hwn, ac mae 195 o Bartïon Gwladwriaethol yn rhan ohono, gan gynnwys y DU. Cyfeiriwyd at y cyfarfod ym Mharis fel cyfle olaf i sicrhau cytundeb rhyngwladol ar ddulliau o fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd, i sicrhau ymrwymiad i nod hirdymor o sicrhau allyriadau net sydd bron yn sero yn ystod ail hanner y ganrif, ac i gefnogi trosglwyddo i economi lân a chymdeithas carbon isel. Prif bwyntiau Cytundeb Paris yw:

§    Cytuno ar nod hirdymor o gadw’r cynnydd o ran tymheredd cyfartalog byd-eang yn is na 2°C uwchlaw lefelau cyn-ddiwydiannol;

§    Cytuno ar anelu at gyfyngu’r cynnydd i 1.5°C, gan y byddai hyn yn lleihau’n sylweddol risgiau ac effeithiau newid yn yr hinsawdd;

§    Derbyn bod angen i allyriadau byd-eang gyrraedd y brig cyn gynted ag y bo modd, gan gydnabod y bydd hyn yn cymryd rhagor o amser i wledydd sy’n datblygu; a

§    Chytundeb i sicrhau gostyngiadau cyflym wedi hynny yn unol â’r wyddoniaeth orau sydd ar gael.

 

Ym mis Hydref 2018, cyhoeddodd y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) ei adroddiad diweddaraf ar Gynhesu Byd-eang o 1.50C. Mae’r adroddiad arbennig hwn yn trafod effeithiau cynhesu byd-eang o 1.50C uwchlaw lefelau cyn-ddiwydiannol a llwybrau allyriadau nwyon tŷ gwydr byd-eang cysylltiedig â hynny. Mae awduron yr adroddiad yn dweud bod angen newidiadau brys fel nas gwelwyd erioed o’r blaen i gyrraedd y targed, ac maent yn dweud bod hyn yn fforddiadwy ac yn ymarferol, er gwaetha’r ffaith mai dyma’r rhan fwyaf uchelgeisiol o addewid Cytundeb Paris, i gadw’r tymheredd rhwng 1.5 a 2 radd Celsiws.

Datgan argyfwng hinsawdd

Mae nifer o drefi, dinasoedd ac awdurdodau lleol ledled y DU wedi datgan ‘argyfwng hinsawdd’. Nid oes diffiniad y cytunwyd arno’n gyffredinol o beth yw argyfwng hinsawdd. Mae rhai trefi a dinasoedd (gan gynnwys Sheffield, Plymouth a Carlisle) wedi addo bod yn niwtral o ran carbon erbyn 2030. Mae rhai, gan gynnwys Gwynedd a Bradford, wedi datgan argyfwng hinsawdd, ond heb bennu dyddiad targed ar gyfer gweithredu. Mae’r ddeiseb yn nodi bod Powys a Machynlleth wedi datgan argyfwng hinsawdd. Mae llythyr gan y Gweinidog at y Pwyllgor yn dweud, fodd bynnag, bod cyfarfod Cyngor Sir Powys, a oedd yn ystyried y datganiad dan sylw, yn diwygio’r cynnig perthnasol ar gyfer y cyfarfod ar 24 Ionawr, i ddileu unrhyw gyfeiriad at argyfwng cyn iddo gael ei basio. Gellir gweld y cynnig diwygiedig, nad oes cyfeiriad ynddo at ‘argyfwng’ yma. Ar 20 Chwefror, cyhoeddodd Cyngor Sir Caerfyrddin ddatganiad argyfwng hinsawdd. Roedd y Cyngor yn ymrwymo i ddod yn awdurdod lleol di-garbon net erbyn 2030, ac i ddatblygu cynllun clir o fewn y flwyddyn nesaf.

 

Cynulliad Dinasyddion

Yn ôl gwefan Senedd y DU, mae cynulliad dinasyddion yn grŵp o bobl sy’n cael eu dwyn ynghyd i drafod mater neu faterion, ac i ddod i gasgliad am yr hyn y credant a ddylai ddigwydd. Mae’r bobl sy’n cymryd rhan yn cael eu dewis fel eu bod yn adlewyrchu’r boblogaeth ehangach, o ran demograffeg (e.e. oedran, rhyw, ethnigrwydd, dosbarth cymdeithasol) ac weithiau o ran agweddau perthnasol. Nod cynulliad dinasyddion yw rhoi amser a chyfle i’r cyhoedd ddysgu am bwnc a’i drafod, cyn dod i gasgliadau. Gofynnir i Aelodau’r Cynulliad wneud cyfaddawdau a gwneud argymhellion ymarferol. Defnyddiwyd cynulliadau dinasyddion, a dulliau tebyg eraill, yn y DU a gwledydd eraill, gan gynnwys Awstralia, Canada, a’r Unol Daleithiau, i fynd i’r afael ag amrywiaeth o faterion cymhleth. Mae cynulliad dinasyddion yn digwydd ar hyn o bryd yng Ngweriniaeth Iwerddon. Cafodd ei sefydlu gan Senedd Iwerddon, i fynd i’r afael â nifer o faterion cyfreithiol a pholisi pwysig y mae’r gymdeithas yn Iwerddon yn eu hwynebu. Roedd y materion hyn yn cynnwys priodas gyfartal, erthyliad a chyfleoedd a heriau o ran poblogaeth sy’n heneiddio.

 

Camau Llywodraeth Cymru

Mae’r adran o’r papur briffio hwn ar y cefndir yn nodi’r cyd-destun ar gyfer gweithredu gan Lywodraeth Cymru ar newid yn yr hinsawdd.

 

Ymgynghoriad ar lwybr carbon isel a’r Cynllun Cyflawni Carbon Isel

Ym mis Gorffennaf 2018, lansiodd Llywodraeth Cymru ei hymgynghoriad ar ‘Gyflawni ein llwybr carbon isel hyd at 2030‘. Roedd yr ymgynghoriad (a gynhaliwyd tan ddechrau mis Hydref) yn gofyn am sylwadau ynghylch pa gamau y dylai Llywodraeth Cymru eu cymryd i leihau allyriadau hyd at 2030. Roedd yn cynnig nifer o gamau posibl ar draws sectorau fel diwydiant, gwastraff, amaethyddiaeth, newid defnydd tir a choedwigaeth, trafnidiaeth, pŵer ac adeiladau. Nododd yr ymgynghoriad fod y camau gweithredu posibl a gynigiwyd wedi’u datblygu drwy ystyried argymhellion Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, tystiolaeth ehangach, trafodaethau â rhanddeiliaid, dysgu gan eraill, a thrwy ystyried y pum ffordd o weithio yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Defnyddiwyd canlyniadau’r ymgynghoriad i gynorthwyo Llywodraeth Cymru i ddatblygu ei chynllun cyflawni carbon isel cyntaf, sy’n nodi sut y bydd Cymru yn cyflawni ei chyllideb carbon gyntaf, a chyhoeddwyd hwn ym mis Mawrth 2019.

Roedd y cynllun cyflawni, sef Ffyniant i Bawb: Cymru Carbon Isel yn nodi sut y mae Cymru am geisio cyflawni ei chyllideb carbon gyntaf (2016-2020) ac hefyd felly, ei tharged dros dro ar gyfer 2020. Mae’n gwneud hyn drwy 76 o bolisïau presennol ar draws Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a’r UE, a 24 o gynigion newydd. Mae pum rhan i’r cynllun:

§    Rhan 1 Cyflwyniad, Gweledigaeth a Chyd-destun: sy’n esbonio pam mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu ar newid yn yr hinsawdd, ei gweledigaeth ar gyfer Cymru carbon isel hyd at 2050 a’r cyd-destun deddfwriaethol a rhyngwladol ehangach;

§    Rhan 2 Arweinyddiaeth, Integreiddio, Cydweithio a Chynnwys: mae’n nodi’r camau trawsbynciol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd drwy integreiddio datgarboneiddio ar draws polisi a chyflawniad y Llywodraeth. Mae hefyd yn amlygu’r angen am gyfranogiad a chydweithio ar draws cymdeithas, a rôl pobl eraill yn y trawsnewidiad carbon isel;

§    Rhan 3 Llwybrau Allyriadau’r Sector: mae’n nodi’r llwybrau ar gyfer y gwahanol sectorau allyriadau, gan gynnwys uchelgais, proffil allyriadau, camau gweithredu a sut mae’r sectorau yn cyfrannu at y nodau llesiant. Y llwybrau ar gyfer pob sector fesul pennod yw pŵer, adeiladau, trafnidiaeth, diwydiant, defnydd tir, amaethyddiaeth, gwastraff a nwyon-ff;

§    Rhan 4 Dull methodolegol: mae’n nodi’r dull methodolegol ar gyfer olrhain polisïau a chynigion, a sut mae’r rhain yn cyfrannu at gyflawni targedau a chyllidebau drwy bolisïau a chynigion;

§    Rhan 5 Y camau nesaf: mae’n amlygu’r camau dros y blynyddoedd sydd i ddod, o ran yr amserlen ar gyfer gosod y drydedd gyllideb carbon, a datblygu’r ail gynllun cyflawni.

O ran y cynllun, mae llythyr gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn dweud y bydd [y Cynllun] yn cynnwys camau gweithredu sy’n ymwneud â chynnwys rhagor o bobl yng Nghymru wrth fynd i’r afael ag allyriadau nwyon tŷ gwydr, ac fod holl bolisïau Llywodraeth Cymru eisoes yn destun amrywiaeth o asesiadau effaith yn ystod y datblygiad. Ynghyd â bioamrywiaeth statudol ac Asesiadau Amgylcheddol Strategol lle bo’n berthnasol, dywedodd, rydym wedi cyflwyno asesiad effaith newid yn yr hinsawdd i sicrhau ein bod yn ystyried effaith ein polisïau ar allyriadau a’r gallu i addasu i batrymau tywydd sy’n newid.

 

Rhagor o gyngor gan Bwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd (UK CCC)

Ar 15 Hydref 2018, gofynnodd llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru i Bwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd ddarparu cyngor ar dargedau hirdymor y DU a’r gweinyddiaethau datganoledig o ran allyriadau nwyon tŷ gwydr, a throsglwyddiad y DU i economi net di-garbon. Yn benodol, gofynasant: pryd y dylai’r DU gyflawni dim allyriadau carbon deuocsid a / neu nwyon tŷ gwydr net fel cyfraniad at uchelgais y byd o dan Gytundeb Paris; a ddylid gosod y targed hwnnw nawr; y goblygiadau o ran allyriadau yn 2050; sut y gellir cyflawni gostyngiadau o’r fath; a’r costau a’r manteision cysylltiedig o’u cymharu â’r targedau presennol. Yn ei llythyr at y Pwyllgor, mae’r Gweinidog yn dweud ei bod yn disgwyl derbyn cyngor gan Bwyllgor y DU ar Newid yn yr Hinsawdd ym mis Mai, ac y bydd yn ystyried y cyngor hwn a’i oblygiadau ar gyfer ein fframwaith statudol, gan gynnwys targed 2050.

 

Camau Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Mae gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig (CCERA) raglen waith barhaus ar newid hinsawdd. Mae’r rhaglen yn cynnwys:

§    Craffu’n flynyddol ar gynnydd Llywodraeth Cymru o ran lliniaru effeithiau newid hinsawdd. Cyhoeddwyd Adroddiad diwethaf y Pwyllgor ym mis Mai 2018;

§    Craffu ar Reoliadau Newid yn yr Hinsawdd (Cymru) 2018;

§    Ymgysylltu ag arbenigwyr newid yn yr hinsawdd drwy weithdai rhanddeiliaid a’i grŵp cyfeirio arbenigol; a

§    Dadansoddi Cynllun Cyflawni Carbon Isel Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar.

 

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.